Rhaglen Breswyl Awduron Rêl

(awaiting translation)

Gallery G39, Caerdydd
16 Mawrth - 14 Ebrill 2007
15 Mawrth 2007 - Noson lansio gyda chabaret

Y gwesteio yn nwylo'r Rêl Institiwt

Rachel PantechnicanYn cynnwys Russell Thompson, Mel Brimfield, Kevin Eldon, Simon Munnery, Suzanne Andrade, Bedwyr Williams, John Hegley, Megan Broadmeadow, Nathan Penlington, Tim Wells, Sally Mees, Jessica Voorsanger, Jennet Thomas a Phaul Tarrago, Laurence Lane, David Mackintosh, Pamela Brabants, Sally O'Reilly, Brian Dewan, John Tozer, John Strutton, Peter Liversidge, Simon Faithfull, Duncan Maclaren, Caroline McCarthy, Edwina Ashton, Ruth Iliffe, Ian Rawlinson, Emily Wardill, Wayne Lloyd, Klega, Cathy Haynes, Sean Parfitt ac Alisdair Hopwood, Peter Finnemore, Rebecca Gould, Andy Black, Julia Peat, Jane Fox, Gwdih_, Chlöe Needham, Tim Iliffe, Fenke Van Gent, View Creative, Tim Albin, Jennie Savage, Gwyn Williams, Kevin Hunt, Brian Nylon, Matthew Welton a lot o bobl eraill! 

Ychydig iawn o bobl sy'n gwybod hyn, ond dros y can mlynedd diwethaf mae adeilad g39 yng Nghaerdydd wedi bod yn gartref i Raglen Breswyl Awduron Rêl - a ddim yn ofod celf cyfoes wedi'r cwbl! Awdur eleni, Rachel Pantechnicon, fydd y 100fed yn llinach hir a diglair awduron preswyl y Rhaglen, ac er mwyn dathlu'r fath garreg filltir bwysfawr rydym ni wedi ymddiried y gwaith iddi o edrych yn ôl ar orffennol y Rhaglen Breswyl ac ar rai o'i chyn-awduron preswyl mwyaf nodedig.

Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y Rhaglen bydd Rachel Pantechnicon yn cydweithio â rhai o'r cyn-breswylwyr i gyflwyno maint dylanwad y Rhaglen Breswyl ar y byd llenyddol. Bydd yna rhaglen nodwedd yn cael ei ffilmio o waith Pantechnicon yn ystod ei phreswyliad, a chyfraniadau gan Syr Arthur Conan Doyle, y bardd byw Paul Hamilton, John Hegley, Nathan Penlington, Jessica Voorsanger, Bedwyr Williams, Andy Black, Megan Broadmeadow, Jane Fox a Peter Finnimore. Adroddwr yr hanes ar y ffilm fydd yr enwog Syr Gideon Vane.

Cofiwch hefyd i bicio heibio'r ganolfan wybodaeth a siop swfinirs ar y llawr isaf, lle mae yna roddion hyfryd, swfinirs a phethau cofiadwy i'w prynu i'ch atgoffa o bob awdur a fu'n rhan o'r Rhaglen Breswyl yn y gorffennol. Mae dathliadau canmlwyddiant Rhaglen Breswyl Awduron Rêl yn argoeli bod yn ddigwyddiad bythgofiadwy yng nghalendr llenyddol y genedl.


Mwy o wybodaeth ar www.g39.org.uk

Neu helwich e-bost atom ni.