|
|
|||||||||
![]() |
|
||||||||
|
cyflwyniad I hyperscope I levox I y daith I lluniau I gweithdai HyperScopeAbout Levox Mae Levox yn bartneriaeth rhwng y cynhyrchwyr ffilm a'r artistiaid Gaelle Rouard ac Etienne Caire (h.y. Atelier MTK), a'r DJ-gyfansoddwr a cherddor eRikm. Mae'r tri wedi gweithio gyda'i gilydd ac ar wahân ers blynyddoedd ac wedi ennill bri mawr yn rhyngwladol fel perfformwyr blaengar yn y maes clyweledol.
Aeth eu hailwneuthuriad o glasur John Huston 'Moby Dick', a'r ugain taflunydd 16mm a'r cannoedd o gylchoedd ffilm oedd ei angen ar ei gyfer, ar daith dros y byd yn 2001 gan swyno cynulleifaoedd, trefnwyr rhaglenni a beirniaid fel ei gilydd. Enillodd sawl gwobr o bwys ar y ffordd. Mae Gaelle ac Etienne yn byw ac yn gweithio yn Grenoble, Ffrainc, mewn ogof lladron o stiwdio sy'n llawn i'r ymylon o offer a geriach ffilm analog, a stribedi o ffilm yn addurno'r waliau fel rhyw groto sinemataidd gwallgof.
Wedi dechrau fel gitarydd roc, mae eRikm bellach yn enwog am ei ddawn troelli a'i allu i gyfuno offerynnau electronig. Mae o'n dod â cherddoriaeth roc a chyfoes at ei gilydd mewn gwaith ar y cyd gyda Voice Crack, Christian Marclay, Luc Ferrari ac eraill yn cynnwys, wrth gwrs, Atelier MTK.
|
|||||||||