cyflwyniad I hyperscope  I levox I y daithlluniau I gweithdai

HyperScope

Mwy Amdan HyperScope

Mae HyperScope yn brosiect newydd gan Levox a'r nod ydi gwasgu gwin newydd melys o hen rawnwin ffilmaidd sur. Drwy chwarae'n gelfydd gyda gwahanol dechnegau optegol ac amrywiaeth anferth o gyfosodiadau cerddorol, mae'r cynhyrchwyr yn corlannu holl ehangder etifeddiaeth y byd ffilmiau dramatig - yr ystrydeb, y datganiad sentimental, y diweddglo dinistriol - yn ei ailgyfansoddi a'i ail-weithio â llaw, ei liwio, ei docio, ei ail-ffilmio a'i ail-argraffu, ac yn arafu, cyflymu, trososod ac ailffurfio'r traciau sain.

Mae Gaelle Rouard ac Etienne Caire yn tynnu delweddau HyperScope o gannoedd, mae'n ymddangos, o wahanol ffilmiau. Maen nhw'n eu trososod, eu cyplysu ac yn eu gwrthgyferbynnu'n garnifal o ystyron newydd a sefyllfaoedd amhosib - a'r cyfan yn cyfleu teimlad anghyfforddus cysgodion golau dydd neu gân aderyn ganol nos. Yn llif y lliw a'r cynllwynio dramatig mae'r cyfarwydd yn cydeistedd â’r anghyfarwydd gan, efallai, dynnu ystyr newydd a rhyfedd ohono.

I gyd-fynd â hyn mae eRikm yn dod â'i fersiwn gwnaed-yn-Ffrainc, patent-dan-ystyriaeth, pync-wedi-torri ei hun o Musique Concr_te, dull sy'n deillio o ffordd o drin bwrdd troelli sydd, wel... y tu hwnt.  Mae o, fel Gaelle ac Etienne yn tynnu ac yn rhwygo'i ddeunydd crai, sef darnau o draciau sain, o ffilmiau. Yna mae o'n ei ail-weithio fo ac yn ei drososod o i greu cyfeiliant o hanner rhythmau anaeddfed o sgrechiadau a slamio drysau ceir. Y trac sain newydd yma, yn y pen draw, ydi'r llaw ar y llyw yng nghanol y goleuni a'r cemegolion sy'n chwildroi o gwmpas y lle'n un storom fawr organig, amlffurfiol.

Yn syml, dyma brofiad dryslyd a dwys, llawn o hanes cywasgedig a drama go iawn.  

Popcorn rhywun?

wedi ei addasu o KYTN - diolch
 
Rhagflas