cartref bach roadshow I artistiaid I brwydr y bandiau I delweddau I ffilm I rhaglen I mwy...


Cae Newydd Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog



Catalog ROADSHOW ar gael nawr gan Rêl Institiwt, Ivanhoe, Woodlands, Conwy DU LL32 8LT £7.00 yn cynnwys p&p. Gwnewch eich siec yn daladwy i: Rêl Institiwt



Mehefin 6 - 8 2003

Penwythnos o dri-deg o arlunwyr, cerddorion, a perfformwyr

Mae Rêl Institiwt, mewn cydweithrediad â Grizedale Arts yn cyflwyno penwythnos o gelf, cerddoriaeth, ffilm, a perfformiadau rhyngwladol ynghyd â stondinau a mabolgampau. Digyddiadau yn cynnwys anturiaethau ‘daredevil’ BMX a cylch o dân, meudwy preswyl, cystadleuaeth Brwydr y Bandiau wedi' feirniadu gan DJ Radio 1 a Radio Cymru Huw Stephens.

Ac mae i gyd ar y ffordd i Flaenau Ffestiniog!

Yn gorfoleddu yng ngwir ysbryd taith roc a rol, mae Road Show yn teithio i bedwar lleoliad yn unig. Blaenau Ffestiniog yw cynrychiolydd Cymru, Birmingham a Grizedale yn cynrychioli Lloegr, a Dundee yn cynrychioli’r Alban. Bydd gwledd o berfformwyr, artistiaid a cherddorion yn llythrennol yn rolio i mewn i’r dref ar gefn lori. Mi fydd y digwyddiadau i gyd AM DDIM, ac i gyd yn HWYL, ac mae i gyd yn hollol wahanol i benwythnos cyffredin yn y dref.

Bydd Road Show yn cynnwys cymuned Blaenau gyda cyfres o weithdai cyn y digwyddiad (yr ysgolion yn penderfynnu beth yw swydd ddisgrifiad y meudwy er engrhaifft), ac am dri diwrnod, bydd yn creu ffocws bywiog yn y dref, yn dennu pobol am filltiroedd o gymunedau agos.

Mi fydd y digwyddiad yn hollol ddwy-ieithog, gweithdai drwy gyfrwng Cymraeg, gyda gwaith newydd yn cael ei gomisiynnu gan ddeg o berfformwyr ac artistiaid Cymreig. Bydd Rêl Institiwt yn dangos rhaglen o ffilmiau ar y daith. Hefyd bydd catalog helaeth yn dogfennu’r holl ddigwyddiadau ym Mlaenau Ffestiniog.

Ar ddiwedd y daith, bydd y gwaith celf a’r tystiolaeth dogfennol i gyd yn ymddangos ar ffurf amgueddfa yn Dundee.

DELWEDDAU