TAFLUNIO
FFILM AR Y LLEUAD
27 Ionawr 2003
Bydd
Rêl Institiwt yn dangos ffilm erioed wedi ei weld o'r blaen am y
tro cyntaf erioed ar ochr dywyll y lleuad ar Ionawr 27 2003
Maer ffilm, yn ôl bob sôn wedii saethu yn gyfrinachol
gan Pavel I. Belyayev yn ystod ymdaith Voskhod
2 yn 1965, yn cael ei ddangos fel rhan o Gwyl Pictiwrs Cymru.
Mae bodolaeth y ffilm Super 8 wedi cael ei wadu yn rheolaidd
gan y Russian Aviation and Space Agency ac y Military
Space Forces (etifeddion rhaglen gofod Rwsia).
Doedd yr awgrymiadau fod gan Stanley Kubrick (cyfarwyddwr 2001:
A Space Odyssey) gopi or ffilm heb eu cadarnhau yn ystod ei
oes.

Doedd Belyayev, cynhychydd ffilm amatur a gofodwr ar daith Voskhod 2,
erioed wedi gwadu nag cadarnhau ei ran yn y ffilmiau. Doedd heb sôn
am gynnwys y ffilmiau, ond mae sibrydion o gwmpas y gallant godi cryn
gywilydd ar awdurdodau y Sofietwyr.
Mewn cyd-weithrediad gydar Kazakhstan League for Historical
Rectification, bydd Rêl Institiwt yn dangos y ffilm am y tro
cyntaf erioed yn y cysawd heulol.
Yn y digwyddiad digyffelyb yma, bydd Rêl Institiwt yn defnyddio
taflunydd Super 8 wedii ddatblygu yn arbennig, i geisio
fod y cyntaf i gyrraedd gwyneb y lleuad gyda golau seliwloid.
Hefyd fel rhan o'r noson o adloniant gofodol bydd pennod glasurol o'r
gyfres deledu cwlt yr 1980au 'Button Moon', hefyd 'The Clangers - a Welsh
Tragedy' ffilm ddogfen newydd yn archwilio marwolaeth araf y pypedau gwlan
wrth iddynt lwydo mewn sied yng ngwaelod gardd yn Ceintaidd.
Hefyd fel rhan o'r noson o adloniant gofodol bydd pennod glasurol o'r
gyfres deledu cwlt 'Button Moon', hefyd 'The Clangers - a Welsh Tragedy'
ffilm ddogfen newydd yn archwilio marwolaeth araf y pypedau gwlan wrth
iddynt lwydo mewn sied yng ngwaelod gardd Ceintaidd.
Mae Rêl Institiwtwyr rheolaidd yn cael eu atgoffa i beidio â
mynychu Neuadd Goffa Betws-y-Coed ar gyfer y digwyddiad hwn ond i edrych
ar y lleuad.
Bydd y gofod yn agor
am 7pm, ffilms i ddechrau am 7.45pm.
|