Noson Walley
Premiére cyntaf y byd o "Adagio" gan Clive Walley

Nos Iau Hydref 17ain 2002 Neuadd Goffa Betws Y Coed


Mae Rêl Institiwt yn cyflwyno premiére cyntaf y byd o "Adagio", ffilm newydd gan arloeswr animeiddio yng Nghymru, Clive Walley; mewn noson o ffilmiau byr rhyngwladol.


Yn y cydweithrediad unigryw yma, mae Rêl Institiwt yn gwahodd Walley i ddewis deg ffilm fer sydd wedi dylanwadu yn ddwfn arno fo ac ei waith.


Ymhlith y ffilmiau wedi ei dewis yn arbennig gan Walley ar gyfer y noson mae:'The Flying Man' 1962 rhagweiniad i Yellow Submarine gan George Drumming
Clasur Oscar Fischinger 'Motion Painting No.1'
'Be Gone Dull Cares’ gan Norman McLaren gyda’r Oscar Peterson Trio
'Furniture Poetry' ac 'Jeckel and Hyde'. gan Paul Bush, Animeiddiwr o Gymru a cyfoeswr i Walley.


Yn clymu’r noson gyda’i gilydd mewn dull Rêl Institiwtaidd bydd cyflwynydd dwy-ieithog coeglyd ac perfformiwr Ewropeaidd Bedwyr Williams; sydd yn disgrifio ei hun fel ‘ateb Yr Hen Golwyn i Ned Sherrin’


Bydd decor cabaretaidd lolfaol yn cael ei osod yn arbennig i gyflenwi ‘r teilmlad yn Neuadd Goffa Betws-y-Coed.


Bydd “Egwyl Lluniaeth Llenwch Eich Bol Rêl” yn cael cwmni cerddorol lolfaol DJ ‘Sofa-Head’, a bydd cyfle i’r gynulleidfa sgwrsio yn anffurfiol gyda’r artist.