Eisteddfod Yr Urdd 2004
Monday 31st May - Saturday June 5th 2004
Ynys Môn agricultural showground, Mona

Following text will soon to be translated - Real Institute is a voluntary not-for-profit organisation and welcomes any volunteering translators to come forward and offer their time.



Rhai o'r tronsus wedi eu addurno


Mistar Urdd yn ei drôns anferth


Y daith drôns ar faes yr Eisteddfod

Mewn cydweithrediad rhwng Rêl Institiwt ac Urdd Gobaith Cymru, bydd prosiect celfyddydol yn gwahodd y cyhoedd ar faes yr eisteddfod i ymuno a’r artistiaid Eleri Jones a Bedwyr Williams.

Drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol (monoprint) a dulliau modern o argraffu (cyfrifiaduron, sganiwr a camera a.y.y.b.) yn gweithio yn agos iawn gyda ymwelwyr y stondin i greu gwaith celf unigryw gan unigolion a darn o gelf gan aml gyfranogwyr.

Mi fydd Stondin amryliw a chreadigol yn dennu pobol o bob oedran, yn cynnwys oedolion yn ogystal a phlant. Bydd cyfle i bawb gymeryd rhan mewn prosiect uchelgeisiol o addurno maes yr Eisteddfod hefo tronsus Mr.Urdd!

Bydd y tronsus gorffenedig yn cael eu hongian ar lein ddillad tu allan i’r stondin a hefyd i greu ‘bunting’ tronsys ar gortyn i addurno y maes i gyd!

Yn ogystal a’r tronsus personol fydd unigolion yn eu creu, mi fydd yna bar anferth o drons 5-6 troedfedd o lêd fel banner o flaen y babell (tebyg i fanner undeb) gyda enwau, cyfarchion a lluniau gan unigolion drosto i gyd. Ar ddiwedd yr wythnos mi fydd ‘parade’ o’r plant yn eu tronsys personol yn dilyn y fanner drôns o gwmpas y maes, ac yna yn ei gyflwyno i’r enwog Mr Urdd ei hyn, sydd gobeithio, yn mynd i wisgo ei drons newydd!