|

Eisteddfod
Yr Urdd 2004
Mai 31 - Mehefin 5
Maes
Sioe Amaethyddol Môn ym Mona
Rhai o'r tronsus
wedi eu addurno

Mistar Urdd yn ei
drôns anferth

Y daith drôns ar faes yr Eisteddfod
Mewn cydweithrediad
rhwng Rêl Institiwt ac Urdd Gobaith Cymru, bydd prosiect celfyddydol
yn gwahodd y cyhoedd ar faes yr eisteddfod i ymuno a’r artistiaid Eleri
Jones a Bedwyr Williams.
Drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol (monoprint) a dulliau modern o argraffu
(cyfrifiaduron, sganiwr a camera a.y.y.b.) yn gweithio yn agos iawn gyda ymwelwyr
y stondin i greu gwaith celf unigryw gan unigolion a darn o gelf gan aml gyfranogwyr.
Mi fydd Stondin amryliw a chreadigol yn dennu pobol o bob oedran, yn cynnwys
oedolion yn ogystal a phlant. Bydd cyfle i bawb gymeryd rhan mewn prosiect uchelgeisiol
o addurno maes yr Eisteddfod hefo tronsus Mr.Urdd!
Bydd y tronsus gorffenedig yn cael eu hongian ar lein ddillad tu allan i’r stondin
a hefyd i greu ‘bunting’ tronsys ar gortyn i addurno y maes i gyd!
Yn ogystal a’r tronsus personol fydd unigolion yn eu creu, mi fydd yna bar anferth
o drons 5-6 troedfedd o lêd fel banner o flaen y babell (tebyg i fanner undeb)
gyda enwau, cyfarchion a lluniau gan unigolion drosto i gyd. Ar ddiwedd yr wythnos
mi fydd ‘parade’ o’r plant yn eu tronsys
personol yn dilyn y fanner drôns o gwmpas y maes, ac yna yn ei gyflwyno i’r enwog
Mr Urdd ei hyn, sydd gobeithio, yn mynd i wisgo ei drons newydd!
|