cyflwyniad I expanded cinema y rhaglen ffimiaulluniau

SHOOT SHOOT SHOOT: Expanded Cinema

Canolfan Celfyddydau Wrecsam, Mai 23 2007, 7 o'r gloch y nos

Ers yr 1960au, mae artistiaid yn y London Film-Makers’ Co-operative wedi bod yn arbrofi gydag amgylchedd y sioe ffilmiau, perfformiadau byw a thaflunio lluosog (defnyddio sawl taflunydd ar y tro). Wrth ryddhau sinema o'i hualau theatrig traddodiadol fe lwyddwyd i chwalu'r mur rhwng y sgrin a'r gynulleidfa ac i wneud y broses greadigol yn rhan o dafluniad y ffilm.

Mae ÒShoot Shoot ShootÓ yn cyflwyno gwaith o orffennol 'Expanded Cinema'. Mae pob cyflwyniad yn brofiad unigryw, torfol ac yn hollol groes i'r hyn a geir o weithiau celf fideo cyfoes. Yn y ffilm 'Line Describing a Cone', sy'n cael ei daflunio trwy f_g, mae goleuni'n magu presenoldeb diriaethol, cerfluniol bron, tra bo'r gweithiau taflunio lluosog eraill yn datgelu pob math o berthynas a rhyngweithio rhwng y delweddau a'r sain.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 'Castle Two' (Malcolm Le Grice, 1968), 'Play' (Sally Potter, 1971), 'Diagonal' (William Raban, 1973), 'Hand Grenade' (Gill Eatherley, 1971), 'Light Music' (Lis Rhodes, 1975-77) a 'Line Describing a Cone' (Anthony McCall, 1973).

Y gweithiau yng ngofal Mark Webber. Cyflwyniad ar y cyd â LUX.

£5  (£3 gostyngiadau)

download flyer 2.6 MB pdf 
download poster 900 KB pdf