|
|
|||||||||
![]() |
|
||||||||
|
cyflwyniad I hyperscope I levox I y daith I lluniau I gweithdai HyperScopeGweithdai Mae gweithdai ar gael i grwpiau bychain gael profi dull unigryw Atelier MTK o weithio.
Bydd deuawd ffilm Levox, Gaelle Rouard ac Etienne Caire, yn eich arwain yn grefftus trwy’r broses gan roi profiad go iawn uniongyrchol o ddewis, dyblygu, trin ac ailbrosesu’n greadigol ffilmiau sydd eisoes mewn bod – a chyfle i chi drochi eich dwylo mewn d_r a chemegolion wrth wneud (ho ho!). Dim sylw i gyfrifiaduron (hwre!), Final Cut Pro nac unrhyw ddull digidol arall o drin ffilmiau a cholli’ch enaid. Mae hwn yn gyfle i drin ffilm go iawn, i adeiladu sgiliau, i ymroi i greu dwys ac i gael lot fawr o hwyl – gan arwain at eich perfformiad Levox eich hun ar gyfer gwesteion gwadd. Gweithdai’n para 3 i 5 diwrnod.
Ffoniwch am fwy o fanylion. |
|||||||||