Penwythnos Arddangosiadau Ffilm yr Hydref y BFFS
Sadwrn 28ain o Fedi 2002


9.30yb Betty Fisher and Other Stories (15)
Cyfarwyddwr: Claude Miller, 103 munud, Ffrainc, is-deitlau
Prif rannau: Sandrine Kiberlain, Nicole Garcia, Mathilde Seigner
Wedi marwolaeth mab Betty, daw ei mam adref â phlentyn ‘nad oes neb ei eisiau’. Addaswyd o stori gan Ruth Rendell. Melodrama, comedi du ac ing.


11.40yb Pauline & Paulette (PG)
Cyfarwyddwr: Lieven Debrauwer, 80 munud, gwlad y Belg, is-deitlau
Prif rannau: Dora van der Groen, Ann Peterson
Yn dilyn marwolaeth y chwaer oedd yn gofalu amdani, caiff Pauline, sydd â meddwl plentyn er yn eu chwedegau, ei symud yn ôl a blaen gan y ddwy chwaer arall oherwydd nad ydynt am gymeryd y cyfrifoldeb. Mae hon yn ffilm syml, treiddgar i dwymo’r galon ac mae’n rhoi sylw i oed, urddas a chariad.


2.00yp Nine Queens (15)
Cyfarwyddwr: Fabien Bielinsky, 114 munud, Ariannin, is-deitlau
Prif rannau: Gastón Pauls, Ricardo Darin
Ar ôl i Marco y twyllwr profiadol achub y cyw-dwyllwr Juan rhag twyll, mae Marco yn cysgodi Juan o dan ei adain am y dydd. Yn dilyn twyll wrth werthu stampiau prin caiff y ddau llond whilber o drafferthion. Sbort wedi ei ysgrifennu’n wych.


4.30yp Le Placard (The Closet) (15)
Cyfarwyddwr: Francis Veber, 85 munud, Ffrainc, is-deitlau
Prif rannau: Daniel Auteuil, Gerard Dépardieu
Roedd y ffars hon gan gyfarwyddwr Le Diner des Cons yn llwyddiant mawr yn Ffrainc llynnedd. Mae François ar golli ei swydd, braidd mae’n siarad gyda’i wraig ac mae’n brin o ffrindiau ond, pan mae’n caniatai i ledaenu’r si ei fod yn hoyw, caiff ei fywyd ei chwyldroi. Mae’n arbennig o ddoniol gweld yr homophob Dépardieu yn gorfod bod yn glén gyda François oherwydd bod hwnnw nawr mor boblogaidd yn y swyddfa.


8.00yh Battleship Potemkin
(Bronenosets Potyomkin) (U)


9.30yb Delbaran (PG)
Cyfarwyddwr: Abolfazl Jalili, 96 munud, Iran, is-deitlau
Prif rannau: Kaeem Alizadeh, Rahmatollah Ebrahimi
Yn gyflwynedig i “holl blant rhyfel”, dyma stori deimladwy Kaim, ffoadur ifanc Afghan, sy’n rhoi dau penllinyn ynghyd drwy gyrchu negeseuon mewn arosfan loriau anghysbell ger y ffin ag Iran. Mae’r cyfarwyddwr yn cyferbynnu prydferthwch caled y diffaethwch a’r ffaith bod Kaim ar goll yn llythrennol ac yn feddyliol.


11.30yb Tape (15)
Cyfarwyddwr: Richard Linklater, 86 munud, UDA
Prif rannau: Uma Thurman, Ethan Hawke, Robert Sean Leonard
Stori syfrdanol am ddau hen gyfaill yn cyfarfod mewn ystafell ddiraen mewn motel. Wedi ei ffilmio’n gyfangwbl yn yr un ystafell, mae’r sgript yn dynn a cynhelir y tensiwn. Mae Linklater yn llwydo i newid ein hargraffaiadau o’r ddau yn ystod y ffilm ac mae’r diweddglo yn ddoniol ac yn ein gorfodi i ddwys-ystyried.


2.00pm Warm Water Under the Red Bridge (15)
Cyfarwyddwr: Shohei Imamura, 119 munud, Siapan, is-deitlau
Prif rannau: Koji Yakusho, Misa Shimizu
Mae dilyn hanes trysor cudd yn arwain Yosuke i bentref gwledig lle mae’n dechrau carwriaeth gyda Saeko, sydd â dawn/cyflwr rhyfedd. Stori serch wahanol â thirluniau godidog; ac mae’n anodd ar adegau gwahaniaethu rhwng realiti a ffantasi.
Tocynnau £2 pob ffilm. Aelodaeth Rêl Institiwt am ddim.
Tocynnau a gwybodaeth: 01492 573518 post@realinstitute.org