digwyddiadau I hysbysebion I cyllid I gwobrau

Hysbysebion Rêl

Mae'r hysbysebion sydd yn ymddangos ar sgrin yn ein digwyddiadau i gyd yn cael eu cynhyrchu drwy gynllun unigryw - 'Hysbysebion Rêl'

Fel hyn mae'n gweithio:
Mae busnesau, cymdeithasau neu unigolion yn prynu 'hysbyseb'. Maent yn talu Rêl Institiwt, sydd wedyn yn trafod gyda cynhyrchydd ffilm i wneud yr hysbyseb. Bydd yr hysbyseb wedyn yn cael ei ddangos ar un o'n 'Nosweithiau Ffilm Amgen'.

Ond gan y cynhyrchydd mae rheolaeth golygyddol a rhyddid creadigol. Efallai eu bod eisiau gweithio yn agos gyda'r prynnwr a cynhyrchu hysbyseb confensiynnol sydd yn hysbysebu'r busnes/cynhyrch. Neu mae posib iddynt ddewis i beidio a siarad gyda'r prynnwr o gwbl a chynhyrchu rhywbeth heb gyswllt uniongyrchol o gwbl. Mae'r prynnwr yn cymeryd y siawns yma, ac mae'r siawns yn rhoi rhyddid i greu.

Yn hynod iawn, mae'r cynllun yma wedi bod yn llwyddiannus dros ben, gyda gofod i'r hysbysebion wedi'w gor-fwcio.

“Not for the Real Institute the cheesy standard local restaurant or driving school adverts with a voice over. Instead these are ”arty” films, one of which – an advert for the Royal Cambrian Gallery – has already been snapped up by S4C.” Daily Post (29/12/00)

e-bostiwch Hysbysebion Rêl